Hafan

Croeso i wefan un o neuaddau pentref mwyaf newydd a chartrefol Cymru. Ail-adeiladwyd Neuadd Bro Derfel yn 2012 gyda chyfleusterau heb eu hail.

Mae’r Neuadd yn hawdd i’w gyrraedd â cherbyd. Gwasanaethir Llandderfel gan y gwasanaeth bws X94 sy’n teithio rhwng Wrecsam ac Abermaw. Mae llwybr beics Sustrans (Llwybr 16) yn pasio trwy ganol y pentref.